Gwaenysgor: Lle Sanctaidd
O fynydd sanctaidd i ddŵr sanctaidd a safle Marchogion y Deml efallai?
Mae’r pentref unigryw yma’n eistedd 600 o droedfeddi uwchben Prestatyn. Mae’n swatio’n agos at frig y bryn, dim ond dwy filltir o’r môr. Mae pobl wedi byw yma o’r cyfnod Neolithig ymlaen. O’r pentref gallwch weld golygfa wych mewn nifer o gyfeiriadau, Môr Iwerydd, y Gogarth, Eryri ac, yn agosach, mae’r Gop. Ar frig y Gop mae twmpath a adeiladwyd gan bobl rhwng diwedd yr oes Fesolithig a dechrau’r oes Neolithig mae’n debyg. Dyma’r ail fwyaf o’i fath ym Mhrydain. Cafodd y twmpath ei gloddio a doedd dim i’w weld y tu mewn, ond reit o dan y twmpath, ar yr ochr ddeheuol, mae ogof. Cafodd yr ogof yma ei chloddio hefyd fwy nag unwaith ac ynddi cafwyd hyd i grŵp o sgerbydau’n gorwedd yn siâp y ffetws.
Pentref Neolithig
Y tu allan i fynedfa’r ogof cafwyd hyd i fwyell law hardd. Roedd hon wedi’i gwneud o garreg Penmaenmawr ac mae llawer o bobl yn credu ei bod hi’n offrwm i’r meirw oedd wedi’u claddu yn yr ogof. Roedd yr hanesydd a’r archeolegydd amatur, Thomas Allen Glenn, wedi cloddio ardal fawr ar y cribau yng Ngwaenysgor sy’n edrych dros Brestatyn. Daeth o hyd i bentref Neolithig mawr gyda mannau cerdded, mannau byw, ac ati, a’r defnyddiau roedden nhw’n eu defnyddio ar gyfer rhoi sglein llachar ar gerrig oedd wedi’u torri’n arw ar siâp bwyell o ffatri Garreg Lwyd ym Mhenmaenmawr. Felly, yma, mae gennym gysylltiad gyda diwydiant cynnar.
Y Gop
Mae pobl yn tybio y byddai’r bwyeill, ar ôl eu gorffen, wedi’u masnachu drwy Brydain gyfan am eu bod wedi’u canfod mewn ardaloedd pell i ffwrdd. Efallai y gallwn feddwl am yr ogof yma sydd islaw twmpath y Gop fel hyn: roedden nhw’n rhoi eu meirw yn ôl yn y sianel geni, yn siâp y ffetws, i gael eu haileni eto drwy eu hysbrydion a hynny drwy’r twmpath mawr. Gwn fod rhai pobl yn meddwl amdano yn y ffordd yma.
Efallai bod y bobl marw yma’n rhai pwysig iawn i boblogaeth y cyfnod hwnnw ac, ar ôl eu claddu, efallai bod y twmpath wedi’i godi fel cofeb iddynt. Y gwir ydy nad oes unrhyw ffordd o wybod yn sicr ond, yn rhyfedd iawn, roedd twmpath arall ym mhentref Gwaenysgor ei hun, yn agos at yr eglwys. Rwy’n gofyn i fi’n hun yn aml a oedd hwn yn ddrych o’r Gop, neu’n ddimbyd ond man claddu. Yn ôl y sôn, bu pobl yn cloddio i mewn iddo. Efallai eu bod yn chwilio am drysor, am fod trysor wedi’i ganfod yn agosach at Llanasa, sef llestr yn llawn o arian. Ond doedd dim byd yn y twmpath yma yng Ngwaenysgor, yn union fel y Gop. Efallai ei fod wedi’i godi ar gyfer dathliadau.
Yn y cyfnod Neolithig, yn ôl maint y pentrefi oedd yn rhedeg o Waenysgor ar hyd ochr y mynydd draw i Ddyserth at safle’r castell, mae’n debyg y byddai poblogaeth o oddeutu 1,800 o bobl wedi byw ar y grib yma uwchben y môr. Ar hyd y grib yma, roedd dŵr wedi’i ddal mewn llynnoedd o’r Oes Iâ diwethaf, felly ynghyd â’r ffynhonnau a’r nentydd ac, os oedd yr hinsawdd yn well, fel ydoedd bryd hynny medden nhw, byddai wedi bod yn lle da i fyw, oherwydd byddai modd pysgota yno a byddai pysgod cragen, anifeiliaid tir ac adar ar gael o’u cwmpas.
Yr Oes Efydd
Bu pobl yr Oes Efydd hefyd yn defnyddio’r ogof ar y Gop fel lle claddu a chafwyd hyd i sgerbydau o’r cyfnod hwnnw hefyd. Mae nifer o feddrodau (twmpathau bach) i’w cael o Waenysgor, yn arwain i lawr y Golden Grove i Llanasa ar ddwy ochr y dyffryn ac Acstyn i’r de.
Roedd cyfrinach gan un o’r beddrodau yma o’r Oes Efydd. Ar fynedfa’r beddrod roedd carreg fawr gron gyda thwll mawr drwy ei chanol, ac o’r twll hwnnw gallech weld llinellau wedi’u torri oedd yn gwneud iddo edrych fel yr haul a’i belydrau. Roedd dwy garreg lai’n dal y garreg fawr i fyny. Efallai mai’r rheswm am hyn oedd i bwyntio pelydrau’r haul i mewn i’r beddrod am ei fod yn wynebu’r de. Efallai fod y bobl yma’n meddwl y gallent blannu eu meirw, oedd wedi’u llosgi’n ulw a’u gosod mewn llestr serameg ynghanol y beddrod, i dyfu fel coed wedi’u plannu, gyda’r haul yn eu helpu i dyfu drwy’r ddaear ac yn ôl i fywyd. Eto, chawn ni byth wybod.
Mae haneswyr wedi sylwi fod pobl yr Oes Efydd fel arfer yn claddu eu meirw wrth ymyl dŵr. Oedd yna afon yn llifo ar un amser i lawr y Golden Grove tuag at Llanasa? Mae Ffynnon Wen i’w chael ar ochr ogleddol y Gop, ac mae ei nant yn llifo o dan y ddaear. Yn ôl y sôn, rhoddwyd lliw yn y dŵr un tro i weld lle byddai’n mynd. Yn y diwedd daeth y lliw allan yn y pyllau yng nghefn castell Gyrn. Cafodd yr hen lwybrau dŵr yma eu creu pan oedd yr iâ yn gorwedd ar frig Llwyfandir Trelawnyd. Un o’r prif fannau lle daeth y dŵr drwodd, heblaw yn y Golden Grove, oedd Nant Fuach. Mae Nant Fuach ar hyd ymyl y ffordd sy’n arwain heibio i Mia Hall tuag at Gallt Melyd ac yn union cyn i chi dechrau mynd i fyny allt tuag at ben y ffordd, mae ar y chwith. Crewyd y dyffryn yma gan ogof enfawr oedd yn cymryd y dŵr ar un cyfnod o’r rhewlif i lawr tuag at y môr. Yn y pendraw, disgynnodd to’r ogof i mewn.
Mae pobl wedi’i gymharu gyda’r Cheddar Gorge, ond ar raddfa lai. Roedd pobl cyn-hanes yn claddu eu meirw yma hefyd, am fod cysgod craig yno. Efallai mai un cliw pam eu bod wedi dewis y safle yma yw’r cwarts oedd wedi’i gloddio yno fel grisial. Os byddwch yn rhwbio dau ddarn o cwarts yn ei gilydd byddwch yn gweld golau bach yn tywynnu. Nid ffrithiant sy’n achosi hyn, y rheswm am y golau yw eich bod yn cyffroi’r positif a’r negyddol sydd wedi’u dal o fewn y cwarts. Mae hyn yn hollol hudol ac mae’n debyg mai dyma’r rheswm pam yr oedd y bobl yma’n rhoi offrwm o ddau ddarn o gwarts i ffynhonnau arbennig, ac hefyd pam fo i’w gael wedi’i wasgaru ger y Meini Hirion ym Mhenmaenmawr a’i fod yn gysylltiedig â chladdfeydd. Yn ddiddorol iawn, roedd maen hir bychan arall oedd yn sefyll ar dwmpath wedi’i amgylchynu â wal yn Acstyn ac, ar ben y maen hir, roedd twll bychan arall. A oedd y ddau feddrod yma’n gysylltiedig â’i gilydd?
Carreg yn Sefyll
Dywedodd yr hanesydd, y diweddar Donald Bell o Gronant, wrthyf bod ganddo ffotograff o’r garreg hon gyda gafr wedi’i chlymu ati.
O fynd yn ôl at y garreg gyda’r twll yn Llanasa, mae’n ymddangos fod gan y bobl ofn mawr o’r garreg yma. Yn ôl y traddodiad roedd math o fwgan yn byw oddi tano ac, yn wir i chi, un diwrnod pan oedd dyn yn pasio, clywodd fellt a tharanau a chafodd ei gipio a’i dynnu o dan y ddaear. Ymddangosodd yn ei gartref yn nes ymlaen mewn cyflwr ofnadwy.
Roedd yr ofergoelion yma’n gyffredin iawn yn yr ardal ar un adeg; megis straeon am fwganod ac am fannau i’w hosgoi ar bob cost. Ar y llaw arall yr oedd y mannau sanctaidd, fel y Gop, oherwydd fel y mynyddoedd yn India a Thibet, mae’n sicr bod hwn hefyd yn fynydd sanctaidd.
Ysbrydion
Yn ôl nifer o bobl, mae ysbrydion wedi ymddangos yno; cadfridog Rhufeinig a’r Frenhines Buddug a’r frwydr derfynol am y Gop sy’n edrych dros Lwyfandir Sir y Fflint. Mae hwn yn wastadedd gweddol fflat sy’n cychwyn o’r codiad yn y tir uwchben Dyserth i Ysceifiog a thu hwnt, a’r hanes yw mai dyma oedd lleoliad y frwydr fawr lle daeth y Rhufeiniaid o Sir Fôn lle’r oeddent wedi bod yn ceisio delio gyda’r Derwyddon. Roedd y Derwyddon, wrth gwrs, wedi dianc i Iwerddon mae’n debyg, ond roedd y Rhufeiniaid wedi teithio i gyfeiriad Lloegr o glywed am wrthryfel Buddug. Roedd Buddug, oedd yn ceisio tynnu’r pwysau oddi ar y Derwyddon (eu harweinwyr crefyddol) yn symud hefyd ac mae o leiaf tri o haneswyr yn credu eu bod wedi cyfarfod yn y fan yma. Daeth y Rhufeiniaid o wastadedd Rhuddlan, i fyny drwy’r bwlch bychan drwy Ddyserth ac efallai eu bod wedi gwneud y Gop yn ganolbwynt i’w lluoedd.
Buddug
Mae traddodiad yn dweud bod y Frenhines Buddug nid yn unig wedi’i geni yn Sir y Fflint, ond ei bod wedi’i chladdu yno hefyd. Mae nifer o fannau yn ardal Trelawnyd wedi awgrymu i hynafiaethwyr bod brwydr fawr wedi digwydd yma. Mae rhyw ugain o enwau caeau yn awgrymu rhyw fath o frwydr. Yn ôl y sôn, cymerodd Buddug wenwyn ar y diwedd gyda’i merched ym Mhenrallt. Ar y ffordd o Berthengam i Chwitffordd mae twmpath yn y fan lle mae’r ffordd yn rhannu’n ddau, sy’n croestorri ym Mhenrallt ac yn arwain i lawr Sarn Hwlcin, a dyma lle maent wedi’u claddu yn ôl y sôn. Mae pobl eraill yn dweud bod ei charreg fedd yng Nghaerwys ac i’w chael yn Eglwys Chwitffordd erbyn hyn.
Ond mae stori arall yn sôn am garreg arall. Cymerwyd hon i Neuadd Mostyn i’w chadw’n ddiogel. Yn ddiweddar gofynnodd cwmni teledu i mi ysgrifennu ychydig linellau i’w darlledu’n fyw o ben y Gop ar Wedi 7. Y rheswm am hyn oedd bod cwmni ffilmiau Mel Gibson wedi prynu’r hawliau ffilm i lyfr o’r enw Boadicea ac roeddent wrthi’n chwilio’n galed am le i’w ffilmio. Dyna addas fyddai ei ffilmio yma. Er bod nifer o fannau eraill yn Lloegr yn hawlio mai yno y cafwyd y frwydr derfynol, rydw i’n credu bod gennym gymaint o dystiolaeth ag sydd ganddynt hwy ei bod wedi digwydd yma. Mae rhywbeth wedi cadw’r cof am frwydr fawr yn fyw yma, er bod pobl wedi tynnu sylw at y ffaith fod yr ardal yma wedi’i dinistrio am fod grŵp o farchfilwyr Rhufeinig wedi’u lladd yma, gan lwyth lleol mae’n debyg.
Diolch o galon i'r hanesydd, Paul Parry, am y cyfraniad yma.






